Marian Evans, sy’n ferch fusnes o Lansteffan, yw un o’r unig 5 unigolyn yng Nghymru i dderbyn Cymrodoriaeth gan y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth. Mae’r Gymrodoriaeth, sef y lefel uchaf sy’n cael ei gwobrwyo gan y Sefydliad, yn cydnabod unigolion sydd wedi arwain a rheoli’n eithriadol, wedi dangos datblygiad proffesiynol parhaus â chymwysterau o’r lefel uchaf.
Yn ymateb i’r newyddion am y Gymrodoriaeth, dywedodd Marian:
“Dwi wir wrth fy modd. Mae’n fraint derbyn cydnabyddiaeth gan sefydliad sy’n creu effaith ledled y byd.’