Mae Marian, sydd bellach yn 39, wedi treulio'r rhan fwyaf o'i gyrfa yn y Sector Gwasanaethau Ariannol ac Eiddo a hi oedd un o'r unigolion ieuengaf yng Nghymru i fod yn Yswiriwr Siartredig a Brocer Yswiriant Siartredig. Wedi iddi ddringo'r rhengoedd yn NFU Mutual lle hi oedd yr Ymgynghorydd, y Rheolwr Datblygu a’r Rheolwr Gwerthu benywaidd cyntaf erioed yng Nghymru, ymunodd Marian â grŵp Thomas Carroll (Brocer Yswiriant y DU y degawd 2014) yn Gyfarwyddwr cwmni yn gweithio'n uniongyrchol â John Moore, (Cadeirydd Thomas Carroll Group, a bellach yn Llywydd CII)