{"id":2743,"date":"2017-05-16T13:55:37","date_gmt":"2017-05-16T13:55:37","guid":{"rendered":"https:\/\/elevatecorp.wpengine.com\/thought-leaders-unite-for-exponential-growth\/"},"modified":"2019-11-18T05:38:19","modified_gmt":"2019-11-18T05:38:19","slug":"arweinwyr-syniadaeth-yn-uno-i-drafod-twf-esbonyddol","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/v1.elevatebc.co.uk\/cy\/arweinwyr-syniadaeth-yn-uno-i-drafod-twf-esbonyddol\/","title":{"rendered":"Arweinwyr Syniadaeth Yn Uno I Drafod Twf Esbonyddol"},"content":{"rendered":"<p><em><strong>Arbenigwyr Busnes, entrepreneuriaid, technolegwyr, athronyddion ac ecolegwyr yn uno er mwyn trafod dyfodol diwydiant a chymdeithas.<\/strong><\/em><\/p>\n<p><em>Detholiad o erthygl gan Mathias J\u00e4ger o wefan Hamburg Startups <\/em><\/p>\n<p>Mae cymaint o ansoddeiriau\u2019n cael eu gorddefnyddio bellach, i\u2019r pwynt nad oes modd rhoi gwerth arnynt. Mae \u201cysbrydoledig\u201d yn un o\u2019r geiriau hynny. Roedd Fforwm MLOVE a gynhaliwyd yr wythnos diwethaf yn Heiligendamm yn sicr yn haeddu\u2019r ansoddair hwn.<\/p>\n<p>Saif y Grand Hotel Heiligendamm yng nghyrchfan glan y m\u00f4r Heiligendamm. Adnewyddwyd pum adeilad hanesyddol i greu\u2019r gwesty crand yn 2003. Roedd y dyfodol wir ar waith yn y fan hon, rhwng 7 a 9 Gorffennaf 2016, o leiaf.<\/p>\n<p>Dyma oedd lleoliad fforwm MLOVE, y darlithiau cyntaf hynny ar dechnoleg o\u2019r radd flaenaf a thwf esbonyddol mewn cymdeithas. Cafodd criw dethol o westeion difyr eu gwahodd yno; arweinwyr syniadaeth sy\u2019n siapio dyfodol diwydiant.<\/p>\n<p>Bydd y term \u201ctwf esbonyddol\u201d yn parhau i newid yn y dyfodol, ar raddfa na ellir ei rhagweld. Mae popeth yn symudol, mae prisiau\u2019n cwympo, mae effeithlonrwydd ar gynnydd, mae hyd oes mentrau\u2019n cwympo, mae arloesedd heddiw wedi hen ddyddio yfory. Fe fydd hi ar ben yn sydyn ar unrhyw rai nad ydynt yn barod ar gyfer y cyflymu hyn.<\/p>\n<p>Symudedd oedd testun trafod MLOVE eleni yng nghwmni tri o\u2019r meddylwyr pwysicaf yn y sector ceir; \u00a0Johann Jungwirth (VW), Alexander Mankowsky (Daimler) a Dieter May (BMW). Rhannwyd eu gweledigaeth ar gyfer byd trafnidiaeth a oedd yn fwy diogel a chynaliadwy.<\/p>\n<p>Amrywiaeth y rhai sy\u2019n cymryd rhan yw un o elfennau creiddiol digwyddiadau MLOVE. Yn hyn o beth, nid arbenigwyr busnes a thechnegwyr yw\u2019r unig siaradwyr, ond ceir hefyd artistiaid a chynllunwyr, ac mae\u2019r cyfnewid rhwng y rhain yn llyfn iawn. Roedd rhai o\u2019r enghreifftiau gorau yn cynnwys: Liat Segal a\u2019i Pheiriant Cyffesu, Anina Net a ffasiwn uwch-dechnoleg, Dave Mathews a ailadeiladodd Boing 747 yn gar arddangos ar gyfer G\u0175yl y Burning Man, a Naziha Mestaoui, a dafluniodd rithluniau o goed ar D\u0175r Eiffel.<\/p>\n<p>Roedd taflunio lluniau yn gefndir delfrydol ar gyfer cyngerdd gan Elektroduos Phantom o\u2019r Ffindir, yr oedd modd ei gynnal y tu allan. \u00a0Nid cyd-ddigwyddiad oedd y ffaith fod y gwylwyr wedi eu gwisgo bron yn wyn i gyd, gan mai \"Cinio Gwyn\" oedd ar y rhaglen. Ac i ddilyn, digonedd o Moscow Mule a ...<\/p>\n<p>Ac yna, daeth y fforwm MLOVE i ben. Beth oedd y gwaddol? Llawer, hyd yn oed os na chafwyd atebion i\u2019r holl gwestiynau a ofynnwyd gan y darlithau a'r gweithdai. Nid cynnig atebion oedd bwriad y digwyddiad hwn, ond mae eisoes wedi cyflawni llawer drwy brocio\u2019r meddwl a chynnig persbectif newydd ar bethau. Y peth pwysicaf oll oedd bod 150 o bobl wedi dod at ei gilydd o bob cwr o\u2019r byd ar gyfer y tridiau hyn.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Arbenigwyr Busnes, entrepreneuriaid, technolegwyr, athronyddion ac ecolegwyr yn uno er mwyn trafod dyfodol diwydiant a chymdeithas. Detholiad o erthygl gan Mathias J\u00e4ger o wefan Hamburg Startups Mae cymaint o ansoddeiriau\u2019n cael eu gorddefnyddio bellach, i\u2019r pwynt nad oes modd rhoi gwerth arnynt. Mae \u201cysbrydoledig\u201d yn un o\u2019r geiriau hynny. Roedd Fforwm MLOVE a gynhaliwyd yr [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[32,33],"tags":[4,5,6,7,8,9,11],"featured_image_src":null,"featured_image_src_square":null,"author_info":{"display_name":"admin","author_link":"https:\/\/v1.elevatebc.co.uk\/cy\/author\/admin\/"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/v1.elevatebc.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2743"}],"collection":[{"href":"https:\/\/v1.elevatebc.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/v1.elevatebc.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/v1.elevatebc.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/v1.elevatebc.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2743"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/v1.elevatebc.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2743\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/v1.elevatebc.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2743"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/v1.elevatebc.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=2743"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/v1.elevatebc.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=2743"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}