{"id":2761,"date":"2019-10-03T12:16:05","date_gmt":"2019-10-03T11:16:05","guid":{"rendered":"https:\/\/elevatecorp.wpengine.com\/a-hat-trick-of-nominations-for-inspirational-carmarthenshire-business-woman\/"},"modified":"2019-11-18T05:39:53","modified_gmt":"2019-11-18T05:39:53","slug":"enwebiad-triphlyg-i-ferch-fusnes-ysbrydoledig-o-sir-gar","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/v1.elevatebc.co.uk\/cy\/enwebiad-triphlyg-i-ferch-fusnes-ysbrydoledig-o-sir-gar\/","title":{"rendered":"Enwebiad Triphlyg i Ferch Fusnes Ysbrydoledig o Sir G\u00e2r"},"content":{"rendered":"\n<p>Mae Marian Evans, sy\u2019n ferch fusnes o Sir G\u00e2r, wedi cael cydnabyddiaeth am ei llwyddiant wedi iddi gyrraedd y rhestr fer mewn tri chategori yng ngwobrau blynyddol mawreddog Merched Mewn Busnes. Mae\u2019r gwobrau, sy\u2019n dathlu deng mlynedd eleni, yn gwobrwyo\u2019r merched sy\u2019n serennu ym maes Busnes. Mae Marian wedi\u2019i henwebu yn y categor\u00efau canlynol: Merch Broffesiynol, Model R\u00f4l\/ Mentor a Merch Ysbrydoledig.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r gwobrau\u2019n anrhydeddu\u2019r merched\nbusnes gorau yn Ninas-ranbarth Bae Abertawe ac maent yn dod yn fwyfwy poblogaidd\nbob blwyddyn. Gan arddangos ystod y dalent sydd gan yr ardal i\u2019w chynnig, mae\n10 categori, a chaiff yr enillwyr eu henwi mewn seremoni fawreddog yn Neuadd\nBrangwyn, Abertawe ar 11 Hydref.&nbsp; Cyflwynir\ny digwyddiad gan Frances Donovan, newyddiadurwraig ac un o brif ddarlledwyr y\nDU. &nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Wedi ei geni a\u2019i magu ar fferm y\nteulu yn Llangynog, Sir G\u00e2r, mae ffocws ac egni Marian wedi arwain at sawl\nswydd proffil uchel yn ystod ei gyrfa. &nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Cychwynnodd ei gyrfa yng Nghymdeithas Yswiriant NFU Mutual,\nlle y\u2019i henwyd yn un o\u2019r gwerthwyr gorau yn y DU yn ystod ei blwyddyn gyntaf.\nWedi hynny, Marian oedd rheolwr gwerthiant benywaidd ifancaf y DU, yn gyfrifol\nam lyfr busnes gwerth nifer o filiynau o bunnoedd. <\/p>\n\n\n\n<p>Yn 2017, sefydlodd Marian Elevate BC, gan gynnig\ngwasanaeth Ymgynghori Busnes, Coetsio a Mentora Swyddogion Gweithredol, Hyfforddi\na Datblygu Arweinyddiaeth i unigolion a busnesau. <\/p>\n\n\n\n<p>Mae Marian yn frwd iawn dros helpu eraill. Sefydlodd Elevate BC yn benodol er mwyn rhannu ei phrofiad a\u2019i steil cynnil, llwyddiannus trwy gefnogi unigolion a busnesau i \u00a0ddatblygu hyd eithaf eu potensial a chael y budd pennaf o\u2019r buddion o fuddsoddi.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae galw mawr amdani fel mentor o\nganlyniad i\u2019w chymwysterau diri a\u2019u gwobrau niferus. Mae Marian yn Frocer Siartredig\nac yn Gymrawd o'r Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth (ILM) (un o\u2019r unig 5 yng\nNghymru) ac mae\u2019n Goetsiwr Swyddogion Gweithredol cymwys. Yn 2018 enillodd\nMentor y Flwyddyn yng Ngwobrau Cenedlaethol Women in Financial Advice.<\/p>\n\n\n\n<p>Ynghyd ag Elevate BC, mae gan Marian bortffolio buddsoddi eiddo trawiadol, partneriaeth fasnachol, ac mae'n un o Gyfarwyddwyr Castell Llansteffan Cyf, wedi iddi ychwanegu Castell Llansteffan yn Sir Gaerfyrddin at y portffolio yn ddiweddar.<\/p>\n\n\n\n<p>Meddai Marian \u201cA minnau\u2019n ferch o\nSir G\u00e2r, mae cael fy enwebu ar gyfer gwobrau Merched mewn Busnes yn fraint imi,\na hynny mor agos at fy nghartref. Dwi mewn sioc fy mod wedi cyrraedd y rhestr\nfer mewn 3 chategori. Mae safon, cryfder, a dyfnder yr enwebiadau yn dyst o\u2019r\ndalent a\u2019r sgiliau sydd gan Ddinas-ranbarth Bae Abertawe i\u2019w cynnig, a rhaid\ndathlu hynny.&nbsp; Rwyf wedi teithio hyd a\nlled y DU gyda fy ngwaith dros y blynyddoedd, ond nid oes gwobr debyg i weithio\ngyda busnesau yng Nghymru i\u2019w helpu i dyfu ac i lwyddo.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p>Mae cynlluniau Marian ar gyfer y\nportffolio busnes ac eiddo yn parhau i dyfu. Mae amser cyffrous ar y gweill i\nGastell Llansteffan, gan gynnwys cael ei drwyddedu i gynnal priodasau ar y\nsafle.<\/p>\n\n\n\n<p>Darllen y stori yn <a href=\"https:\/\/businessnewswales.com\/a-hat-trick-of-nominations-for-inspirational-carmarthenshire-business-woman\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Business News Wales<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae Marian Evans, sy\u2019n ferch fusnes o Sir G\u00e2r, wedi cael cydnabyddiaeth am ei llwyddiant wedi iddi gyrraedd y rhestr fer mewn tri chategori yng ngwobrau blynyddol mawreddog Merched Mewn Busnes. Mae\u2019r gwobrau, sy\u2019n dathlu deng mlynedd eleni, yn gwobrwyo\u2019r merched sy\u2019n serennu ym maes Busnes. Mae Marian wedi\u2019i henwebu yn y categor\u00efau canlynol: Merch [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[42,43],"tags":[],"featured_image_src":null,"featured_image_src_square":null,"author_info":{"display_name":"admin","author_link":"https:\/\/v1.elevatebc.co.uk\/cy\/author\/admin\/"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/v1.elevatebc.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2761"}],"collection":[{"href":"https:\/\/v1.elevatebc.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/v1.elevatebc.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/v1.elevatebc.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/v1.elevatebc.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2761"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/v1.elevatebc.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2761\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/v1.elevatebc.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2761"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/v1.elevatebc.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=2761"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/v1.elevatebc.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=2761"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}