{"id":2777,"date":"2019-04-11T10:57:15","date_gmt":"2019-04-11T10:57:15","guid":{"rendered":"https:\/\/elevatecorp.wpengine.com\/role-model-marian-up-for-string-of-awards\/"},"modified":"2019-11-18T05:35:13","modified_gmt":"2019-11-18T05:35:13","slug":"marian-y-model-rol-yn-cael-ei-henwebu-am-lu-o-wobrau","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/v1.elevatebc.co.uk\/cy\/marian-y-model-rol-yn-cael-ei-henwebu-am-lu-o-wobrau\/","title":{"rendered":"Marian y Model R\u00f4l yn cael ei henwebu am lu o Wobrau"},"content":{"rendered":"<p>Dolen i\u2019r erthygl: <a title=\"\" href=\"https:\/\/wales247.co.uk\/role-model-marian-up-for-string-of-awards\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener noreferrer\">Wales24<\/a><\/p>\n<p><strong>Mae merch fusnes o Gaerfyrddin wedi derbyn cydnabyddiaeth am ei chyfraniad i\u2019r diwydiant gwasanaethau ariannol a\u2019r diwydiant arweinyddiaeth wedi iddi gael ei henwebu am lu o wobrau.<\/strong><\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"size-medium wp-image-32564 alignleft\" src=\"https:\/\/wales247-1dee.kxcdn.com\/wp-content\/uploads\/2019\/04\/Marian-Evans-300x200.jpg\" sizes=\"(max-width: 300px) 100vw, 300px\" srcset=\"https:\/\/wales247-1dee.kxcdn.com\/wp-content\/uploads\/2019\/04\/Marian-Evans-300x200.jpg 300w, https:\/\/wales247-1dee.kxcdn.com\/wp-content\/uploads\/2019\/04\/Marian-Evans-450x300.jpg 450w, https:\/\/wales247-1dee.kxcdn.com\/wp-content\/uploads\/2019\/04\/Marian-Evans.jpg 600w\" alt=\"\" width=\"300\" height=\"200\" data-=\"\" \/><\/p>\n<p>Mae Marian Evans, sylfaenydd Ymgynghoriaeth Fusnes Elevate BC, wedi ei henwebu ar gyfer y Gwobrau Merched Cymru cyntaf erioed. Mae hefyd wedi cyrraedd y rhestr fer yng nghategori Arweinyddiaeth Womanspire Chwarae Teg, ac wedi ei henwebu ddwywaith yng Ngwobrau Women in Financial Advice (WIFA) eleni, a hynny yng nghategori Model R\u00f4l y Flwyddyn a Cyfraniad i Amrywiaeth Rhywedd.<\/p>\n<p>Eleni derbyniodd Gwobrau WIFA 1,100 o enwebiadau, sef y nifer uchaf erioed. Cr\u00ebwyd y gwobrau er mwyn dathlu llwyddiannau merched sy\u2019n gweithio yn y gymuned cyngor ariannol. Mae\u2019n bur debyg y bydd y Gwobrau Merched Cymru cyntaf erioed yr un mor llwyddiannus, os nad yn fwy llwyddiannus, na seremon\u00efau gwobrwyo Lloegr, yr Alban ac Iwerddon a gynhaliwyd ym mis Ionawr.<\/p>\n<p>Mae Gwobrau Womensipre Chwarae Teg, sef prif elusen cydraddoldeb rhywedd Cymru, yn dychwelyd am noson ysbrydoledig arall i ddathlu cyflawniad merched o bob cefndir,\u00a0 o bob oed a gwaith ledled Cymru.<\/p>\n<p>A hithau\u2019n Frocer Yswiriant Siartredig o ran ei chrefft ac yn Gymrawd o\u2019r Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth (ILM), mae Marian eisoes wedi ennill teitl Mentor y Flwyddyn WIFA wedi iddi fachu\u2019r brif wobr yn y seremoni fawreddog yn Llundain y llynedd.<\/p>\n<p>Meddai Marian, 40: \u201cRoedd 2018 yn flwyddyn arbennig, yn anad dim, wedi imi dderbyn gwobr WIFA a dod yn llysgennad ar gyfer Panel Mentora Women On Boards UK. Mae cyrraedd y rhestr fer \u2013 ar gychwyn 2019 \u2013 yn anhygoel ac mae wir yn sbardun imi gan fy ysbrydoli i wneud fy ngorau yn fy maes gwaith.\u201d<\/p>\n<p>Dywedodd llefarydd ar ran Gwobrau Merched Cymru: \u201cNod y gwobrau hyn yw dathlu grym ac ystod y dalent sy\u2019n cael ei chuddio gan ferched, ynghyd \u00e2 dathlu gwaith caled arwresau nad yw\u2019n cael ei gydnabod yn aml.\u201d<\/p>\n<p>\u201cRydym yn gobeithio y bydd y rhai sy'n cyrraedd y rownd derfynol yn ysbrydoli merched eraill i ddilyn eu trywydd nhw, ac edrychwn ymlaen yn arw at groesawu unigolion teilwng atom mewn seremoni gofiadwy, gan ddathlu'r enillwyr gyda nhw mewn digwyddiad braf. Dymunwn bob lwc i bawb sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol.\u201d<\/p>\n<p>Cychwynnodd Marian ei gyrfa nodedig yng Nghymdeithas Yswiriant NFU Mutual, lle y\u2019i henwyd yn un o\u2019r gwerthwyr gorau yn y DU yn ei blwyddyn gyntaf. Wedi hynny, Marian oedd rheolwr gwerthiant benywaidd ifancaf y DU. Yn 30 oed, roedd yn gyfrifol am lyfr busnes gwerth nifer o filiynau o bunnoedd. Yn 2017,\u00a0 sefydlodd Marian Elevate BC, lle y mae\u2019n gweithio gydag arweinwyr yn y sectorau cyhoeddus a phreifat yn Goetsiwr Swyddogion Gweithredol, yn Fentor, yn Llefarydd ac yn un sy\u2019n cynnig Hyfforddiant wedi\u2019i deilwra. Marian yw perchennog Castell Llansteffan ac mae\u2019n berchen ar fusnes buddsoddi mewn eiddo.<\/p>\n<p>Mae Gwobrau Merched Cymru yn cael eu cynnal yng Nghaerdydd ddydd Mercher 3 Gorffennaf, ac mae Womenspire Chwarae Teg ym mis Gorffennaf.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Dolen i\u2019r erthygl: Wales24 Mae merch fusnes o Gaerfyrddin wedi derbyn cydnabyddiaeth am ei chyfraniad i\u2019r diwydiant gwasanaethau ariannol a\u2019r diwydiant arweinyddiaeth wedi iddi gael ei henwebu am lu o wobrau. Mae Marian Evans, sylfaenydd Ymgynghoriaeth Fusnes Elevate BC, wedi ei henwebu ar gyfer y Gwobrau Merched Cymru cyntaf erioed. Mae hefyd wedi cyrraedd y [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":2778,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[42],"tags":[],"featured_image_src":"https:\/\/v1.elevatebc.co.uk\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/home-leadership.jpg","featured_image_src_square":"https:\/\/v1.elevatebc.co.uk\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/home-leadership.jpg","author_info":{"display_name":"admin","author_link":"https:\/\/v1.elevatebc.co.uk\/cy\/author\/admin\/"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/v1.elevatebc.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2777"}],"collection":[{"href":"https:\/\/v1.elevatebc.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/v1.elevatebc.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/v1.elevatebc.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/v1.elevatebc.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2777"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/v1.elevatebc.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2777\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/v1.elevatebc.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/2778"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/v1.elevatebc.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2777"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/v1.elevatebc.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=2777"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/v1.elevatebc.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=2777"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}