MARIAN AR Y TELEDU


Yn Serennu Rôl Gyda Theulu Mewn Sioe Deledu Newydd ar S4C

Llafur cariad yn cadw rhamant Castell Llansteffan yn fyw

Mae’r nifer o ‘gloeon cariad’ sydd wedi ei gadael ar waliau Castell Llansteffan yn dyst i arwyddocâd y lle i sawl pâr rhamantus. Mae’r llecyn hudolus sydd â golygfeydd godidog dros fae Caerfyrddin yn amlwg yn fan llawn rhamant. Ac mae un cwpwl lleol wedi cymryd her enfawr ymlaen i sicrhau fod y castell yn ganolbwynt i sawl stori serch am flynyddoedd i ddod.

Gyda’r weledigaeth o gynnig seremoniau priodas perffaith ar safle’r castell Normanaidd, sydd bellach yn adfail, a fydd Marian a Rob Evans yn llwyddo i wireddu’r freuddwyd uchelgeisiol? A fydd modd cynnig popeth sydd ei angen ar gyfer digwyddiad o’r safon uchaf o’r safle anghysbell? A hynny wrth gynnal teulu, gwaith â busnesau eraill yng nghanol heriau a chyfyngiadau'r pandemig?

Diolch i gyfres newydd sbon ar S4C, Teulu’r Castell, bydd cyfle i weld beth a ddaw o’r teulu bach hoffus gyda’r cynlluniau mawr. Dilynwn Marian, Rob a’u merched Ffion a Catrin dros cyfnod o flwyddyn ar ôl iddynt brynu Fferm y Plas a’r stad o dir ynghlwm - sy’n digwydd cynnwys castell a choedwig. Dim ond rhan o’r fenter yw’r seremoniau priodas - mae angen adfywio gweddill y stad a datblygu busnes mentora Marian. Ond pam cymryd her mor fawr ‘mlaen?

“Yn tyfu fyny, o ni lan ‘ma mor aml ag o ni’n gallu,” meddai Marian. “Oedd Mam a Dad yn ffermio yn Llangynog, so o ni ddim yn mynd yn bell iawn am ddiwrnod mas. Oedd popeth oedd ishe ar gael yma; y traeth, y castell, hufen ia, chips.”

“Yna, pan ddechreuodd Rob a fi mynd mas, o ni lan y castell eithaf lot yn mynd am dro. Mae atgofion melys o ni’n cwympo mewn cariad yno. Mae’r lle wedi newid ystyr i fi dros y blynyddoedd; o fod yn blentyn, wedyn lle sbesial i ni gyda’n gilydd ac wrth gwrs nawr, mae’n le i ni fel teulu.”

Dros y blynyddoedd, mae Marian wedi sefydlu sawl busnes llwyddiannus ac wedi ennill gwobr, Inspirational Woman of the Decade. Mae profiad Rob o’i waith fel Peiriannydd Sifil yn amhrisiadwy i’r prosiect anferth ac mae ei sgiliau DIY yn cael ei brofi i’r eithaf.

Er maint y prosiect, bu’r holl beth yn gyfrinach am gyfnod. 

“Pan bryno ni’r castell yn gyntaf oedd bach o sioc bod ni wedi llwyddo gwneud,” meddai Marian. “Wedyn o ni yn rili embarrassed, o ni eisiau cadw fe’n dawel. Fi’n cofio dweud, fel ni’n mynd i neud yn siŵr fod neb yn ffeindio mas am hwn? Oedd llais bach yn fy mhen yn dweud, pwy maen nhw’n meddwl ydy nhw?”.

Ond amhosib oedd cadw rhywbeth mor gyffrous yn dawel mewn pentref bach, fel nododd Catrin eu merch ieuengaf: “Dwi i ddim wedi dweud wrth fy ffrindiau yn yr ysgol, maen nhw wedi dod i fi a gofyn, ‘Catrin - ife ti sy’n berchen y castell?’. Pryd oedd Mam a Dad wedi dweud wrthym ni, o ni’n meddwl nag wyt ti fod yn royalty i wneud na? Wow!”.

“Dim lot o bobol sy’n cael y cyfle i brynu castell, so ie fi’n hapus amdano fe,” ychwanegodd ei chwaer Ffion.

Gyda dim ond llond llaw o gestyll Cymru mewn dwylo preifat, mae’r teulu yn gweithio yn agos gyda Cadw, y sefydliad sy’n gyfrifol am ddiogelu safleoedd hanesyddol Cymru, a sicrhau fod unrhyw ddatblygiadau yn gweddu i’r safle.

A fydd y fenter yn llwyddiant ysgubol neu’n fethiant trychinebus i’r teulu? Caiff y cyfan ei ddatgelu ar Teulu’r Castell, pob nos Iau am 9.00 ar S4C.

Teulu’r Castell
Nos Iau, 21 Ebrill, 9.00
Isdeitlau Saesneg
Ar S4C Clic, BBC iPlayer a llwyfannau eraill
Cynhyrchiad Little Bird ar gyfer S4C

Os ydych chi'n gwylio'r rhaglen mae gennych chi ddiddordeb mewn cynnwys Elevate BC mewn Hyfforddi i chi'ch hun neu'ch busnes, cysylltwch â ni

[ninja_form id=1]

"Transforming good into exceptional"

Elevate BC Ltd | Registration Number :10704331 | VAT No.: 342 9273 92 | Registered as a Company in England & Wales
Office Address: Llys Deri, Parc Pensarn, Carmarthen, SA31 2NF
Privacy PolicyWebsite Disclaimer
Copyright 2023 - All Rights Reserved
Website by W3 Web Designs Ltd.
linkedin facebook pinterest youtube rss twitter instagram facebook-blank rss-blank linkedin-blank pinterest youtube twitter instagram